Prosiect sy'n creu cyfleuster ar y We yw ANW. Bydd yn fodd i hwyluso chwilio pa archifau sydd ar gadw mewn archifdai, prifysgolion, amgueddfeydd, a llyfrgelloedd ledled Cymru. Bydd yn dangos yn glir ble yn union y cedwir y ffynonellau gwybodaeth sydd o ddiddordeb i'r ymchwilydd.
Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru yw ARCW. Mae'n cynrychioli'r cyrff sy'n ymwneud â gweinyddu treftadaeth ddogfennol Cymru, gan gynnwys gwasanaethau archifau llywodraeth leol, llyfrgelloedd prifysgol, a sefydliadau cenedlaethol. Ffurfiwyd ACW yn 1995 er mwyn codi proffil archifau ym mywyd cyhoeddus Cymru. Newidiwyd ei enw i ARCW ym mis Tachwedd 2004. ARCW sy'n gyfrifol am brosiect ANW; ac y mae ganddo Grŵp Rheoli'r Prosiect sy'n arolygu gwaith tîm ANW. Gweler Partneriaid y prosiect
Ar sail y cymorth chwilio (rhestr o gynnwys casgliad) bydd ANW yn creu disgrifiad electronig safonol am natur y cofnodion a geir yn y casgliad hwnnw, eu maint, eu math, a'u cynnwys. Bydd modd chwilio'r holl ddisgrifiadau wedyn ar y wefan. Bydd nifer y disgrifiadau ar wefan ANW yn cynyddu wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Erbyn diwedd y prosiect bydd cyfanswm o 4,500 ohonynt, yn disgrifio 90% o'r casgliadau sydd wedi'u catalogio gan aelodau ARCW. Yn ogystal â hynny, caiff staff aelodau ARCW eu hyfforddi gan ANW i ddefnyddio'r system.
Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'r cyrff eraill sydd yn aelodau o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.
Dechreuodd y prosiect yn Ionawr 2003, ac fe'i hariennir tan ddiwedd Rhagfyr 2005. Yn ystod mis Medi 2003 bydd y data cyntaf yn mynd ar-lein (500 o gofnodion). Byddant yn cynnwys disgrifiadau o archifau teuluoedd a stadau sydd ar gadw gan bartneriaid ANW (ffrwyth prosiect a ariannwyd gan y Comisiwn ar Lawysgrifau Hanesyddol), a chofnodion eraill sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yna dros y ddwy flynedd ddilynol ychwanegir atynt 4,000 o ddisgrifiadau eraill. Bwriedir lansio'r wefan yn swyddogol yn ystod hydref 2005. Gweler Cerrig milltir y prosiect
Wedi i'r prosiect ddod i ben, bydd gwefan ANW yn cael ei chynnal gan ARCW. Mae'r system wedi'i chynllunio fel y bydd modd i'r partneriaid barhau i gyfrannu cofnodion newydd i'r wefan.
Penodwyd tîm o chwech gan ARCW i wneud y gwaith. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, y mae swyddfa'r prosiect. Mae tîm ANW yn cynnwys Rheolwr y Prosiect, Martin Locock, a phum Swyddog Archif.
Gofynnwyd i bob sefydliad ddewis y casgliadau pwysicaf o archifau sydd yn eu gofal. Maent yn cynnwys archifau cyrff a busnesau, papurau a dyddiaduron unigolion amlwg (byw a marw) ym meysydd llenyddiaeth, celf, gwleidyddiaeth ac yn y blaen, a chofnodion stadau, cynghorau, sefydliadau academaidd, ac eglwysi. Mae'r archifau yn amrywio o ran eu ffurf: llawysgrifau, deunydd printiedig, ffotograffau, mapiau, a darluniau. Ni bydd y data yn cyfeirio at ddeunydd sydd heb ei gatalogio.
Na bydd. Gwybodaeth am leoliad y ffynonellau, a'u natur, y mae ANW yn ei chynnig ichi, a manylion a fydd yn eich cynorthwyo i ymweld â'r sefydliadau sydd yn eu cadw. Nid ffynhonnell yw ANW ei hun, ond yn hytrach mynegai i ffynonellau.
Enghreifftiau o wefannau sydd yn dangos dogfennau yw:Mae dewis o gyfleusterau chwilio ar y wefan, gan gynnwys chwiliad syml ar draws y data i gyd; chwiliad mwy cymhleth mewn maes arbennig; chwiliad thematig ar sail enw pwnc, unigolyn, neu gorff; a chwiliad daearyddol.
Na. Ar lefel casgliad y mae'r wybodaeth a geir gan ANW (yn disgrifio'r grŵp o ddogfennau yn hytrach na phob dogfen yn un ac yn un).
Ar ambell wefan fe allwch chi chwilio gwybodaeth ar lefelau is, gan gynnwys:
Ydy. Mae tudalennau'r wefan ar gael yn y ddwy iaith, a'r cyfleusterau chwilio. Ond yn Saesneg yn unig y crëwyd y data disgrifiadol; ac yn Saesneg yn unig felly y dangosir canlyniadau'r chwilio.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnig ei chefnogaeth ariannol i'r prosiect tair blynedd a fydd yn disgrifio 4,000+ o gasgliadau ac yn rhoi'r disgrifiadau hynny ar y We.
Dechrau paratoi'r system gyfrifiadur, diffinio'r casgliadau sydd i'w cynnwys, a phenodi'r tîm.
Tîm prosiect ANW yn dechrau, gan weithio ar gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyntaf.
Tîm prosiect ANW yn dechrau gweithio ar gasgliadau sefydliadau eraill.
Gwefan ANW yn mynd yn fyw â'r data cyntaf, 500 o ddisgrifiadau gyda phob aelod o ARCW yn cael eu cynrychioli. Lansiad ac ymgyrch farchnata.
Lansiwyd y wefan fyw ar 4 Medi 2003 gan Alun Pugh (Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon) (ar y dde). Er nodi'r achlysur cyflwynwyd iddo gan Susan Edwards (Is-gadeirydd Cyngor Archifau Cymru) grŵp o ffotograffau archifol. Y siaradwyr eraill oedd (o'r chwith i'r dde) Gwyn Jenkins (Ysgrifennydd Cyngor Archifau Cymru), Martin Locock (Rheolwr Prosiect ANW), a Richard Keen (Pwyllgor Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri).
Cyflwyniad i ANW (Powerpoint) (2.7Mb)
Cafodd y wefan ei lansiad swyddogol gan CACC a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, 22 Medi 2005; roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan gynrychiolyddion defnyddwyr, ynghyd â chysylltiadau fideo i ddathlu pen-blwydd trawsyriant y radio cyntaf o'r DU i Awstralia ym 1918.
Cwblhau gwaith tîm ANW.
Ionawr (25kb) | Chwefror (21kb) | Mawrth (21kb) | Ebrill (16kb) | Mai (14kb) | Mehefin (35kb) | Gorffennaf (33kb) | Awst (39kb) | Medi (62kb) | Hydref (36kb) | Tachwedd (37kb) | Rhagfyr (33kb)
Ionawr (31kb) | Chwefror (29kb) | Mawrth (30kb) | Ebrill (30kb) | Mai (32kb) | Mehefin (41kb) | Gorffennaf (37kb) | Awst (30kb) | Medi (33kb) | Hydref (31kb) | Tachwedd (37kb) | Rhagfyr (31kb)
Ionawr (39kb) | Chwefror (40kb) | Mawrth (36kb) | Ebrill (35kb) | Mai (40kb) | Mehefin (40kb) | Gorffennaf (37kb) | Awst (39kb) | Medi (38kb) | Hydref (34kb) | Tachwedd (38kb)
Tachwedd 2002 (43kb) | Mawrth 2003 (20kb) | Mehefin 2003 (33kb) | Tachwedd 2003 (19kb) Mawrth 2004 (36kb) | Gorffenaf 2004 (36kb) | Tachwedd 2004 (15kb) | Mawrth 2005 (23kb) | Gorffennaf 2005 (38kb) | Tachwedd 2005 (23kb)
Tachwedd 2002 (16kb) | Mawrth 2003 (24kb) | Mehefin 2003 (28kb) | Tachwedd 2003 (24kb) | Mawrth 2004 (24kb) | Gorffennaf 2004 (24kb) | Tachwedd 2004 (21kb) | Mawrth 2005 (21kb) | Gorffennaf 2005 (21kb) | Tachwedd 2005 (20kb)
Awst 2002 (49kb) | Chwefror 2003 (68kb) | Mai 2003 (56kb) | Gorffennaf 2003 (70kb) | Medi 2003 (60kb) | Rhagfyr 2003 (59kb) | Chwefror 2004 (64kb) | Mai 2004 (60kb) | Medi 2004 (53kb) | Ionawr 2005 (43kb) | Chwefror 2005 (43kb) | Mai 2005 (43kb) | Medi 2005 (34kb)
Gweithredir prosiect ANW gan aelodau Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Meddalwedd | Gwnewch ddolen i wefan ANW | Terminoleg a safonau | Cydnabyddiaeth | AIM25
Meddalwedd MySQL, sy'n dal y data.
Llwythwch i lawr logo ANW (11kb) | Cyfarwyddiadau (Saesneg) (1kb)
[Canllawiau ANW ar gyfer disgrifiadau lefel fonds, fersiwn 3.0 (Rhagfyr 2004) (Saesneg) (556kb)] [Disgrifiadau enghreifftiol (Saesneg) (44kb)] [Crynodeb newidiadau, canllawiau fersiwn 3.0 (Rhagfyr 2004) (Saesneg) (15kb)]
Cafodd system AIM25 ei chreu gan Patricia Methven (King's College London), Robert Baxter (AIM25) a Frances Blomeley (University of London Computer Centre), gyda chymorth tîm staff AIM25 a phartneriaid AIM25.
[I ben y tudalen] [Cerrig milltir y prosiect] [Adroddiadau] [Partneriaid prosiect]