| 1063-1136
|
Y Saeson/Normaniaid yn dechrau gorchfygu Cymru
|
| 1267
|
Yng nghytundeb Trefaldwyn Harri III, brenin Lloegr, yn cydnabod Llywelyn ap Gruffudd yn dywysog Cymru |
| 1277-1284
|
Edward I yn gorchfygu tywysogaeth Cymru
|
| 1400-1410
|
Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr
|
| 1485
|
Harri Tudur yn glanio yn Aberdaugleddau, yn ymdeithio i Bosworth, yn gorchfygu Richard III, ac yn dod yn frenin Harri VII
|
| 1536
|
Y Ddeddf 'Uno' yn cadarnhau uniad Cymru â Lloegr ac yn creu siroedd Cymru
|
| 1543
|
Sefydlu Llys y Sesiwn Fawr a'r Llysoedd Chwarter
|
| 1546
|
Y llyfr cyntaf i'w argraffu yn Gymraeg: Yny lhyvyr hwnn
|
| 1555
|
Deddf y Priffyrdd yn gwneud pob plwyf yn gyfrifol am ei ffyrdd ei hun
|
| 1588
|
William Morgan yn cyhoeddi'r Beibl yn Gymraeg
|
| 1601
|
Deddf y Tlodion yn rhoi'r hawl i'r plwyf godi treth er cynnal y tlawd; a threth sirol yn talu am garcharau a gwallgofdai
|
| 1642-1651
|
Rhyfeloedd Cartref
|
| 1748
|
Adeiladu'r Gwaith Haearn yn Nowlais, Merthyr Tudful
|
| 1751
|
Ffurfio Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion
|
| 1768
|
Dechrau gwaith copr Mynydd Parys
|
| 1782
|
Deddf Gilbert yn rhoi'r hawl i'r plwyfi greu Undebau Deddf y Tlodion
|
| 1797
|
Glaniad y Ffrancod, Abergwaun
|
| 1819
|
Yr Eisteddfod gyntaf gyda Gorsedd y Beirdd
|
| 1822
|
Sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
|
| 1830
|
Diddymu Llys y Sesiwn Fawr
|
| 1831
|
Terfysgoedd Merthyr Tudful
|
| 1832
|
Deddf Diwygio'r Senedd yn ehangu'r hawl i bleidleisio
|
| 1834
|
Deddf Newydd y Tlodion yn creu Undebau Deddf y Tlodion ledled Cymru
|
| 1835
|
Deddf y Corfforaethau Bwrdeistrefol yn diwygio gweinyddiad bwrdeistrefi
|
| 1837
|
Dechrau cofrestru sifil genedigaethau, priodasau a marwolaethau
|
| 1838
|
Deddf y Priffyrdd yn rhoi'r hawl i'r plwyf greu ei Fwrdd Priffyrdd ei hun
|
| 1839
|
Cyrch y Siartwyr ar Gasnewydd
|
| 1839-1843
|
Terfysgoedd Rebeca yn erbyn tollau'r tyrpeg
|
| 1848
|
Deddf Iechyd Cyhoeddus yn rhoi'r hawl i le trefol sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol er rheoli ffyrdd, carthffosydd, a chyflenwadau dŵr
|
| 1853
|
Y Ddeddf Gladdu yn rhoi'r hawl i festri'r plwyf sefydlu Bwrdd Claddu i greu mynwentydd a'u rheoli
|
| 1858
|
Deddf Llywodraeth Leol yn ehangu awdurdod y Bwrdd Iechyd Lleol i'w alluogi i greu Bwrdd Claddu
|
| 1870
|
Y Ddeddf Addysg yn awdurdodi sefydlu Byrddau Ysgol i godi ysgolion yn ychwanegol at y rhai elusennol a oedd yn bodoli eisoes
|
| 1872
|
Sefydlu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth
|
| 1872
|
Deddf Iechyd Cyhoeddus yn diddymu'r Byrddau Iechyd ac yn sefydlu yn eu lle gyfundrefn gyflawn o awdurdodau iechyd trefol a gwledig
|
| 1886-1891
|
Rhyfel y Degwm
|
| 1888
|
Deddf Llywodraeth Leol (Cynghorau Sir) yn creu cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol etholedig, gan drosglwyddo iddynt lawer o ddyletswyddau'r Llysoedd Chwarter
|
| 1889
|
Deddf Addysg Ganolradd Cymru yn rhoi i'r siroedd a'r bwrdeistrefi sirol y cyfrifoldeb am addysg ganolradd a thechnegol
|
| 1894
|
Deddf Llywodraeth Leol yn creu Cynghorau Dosbarth Trefol a Gwledig yn lle'r Awdurdodau Iechyd; a festri'r plwyf yn ildio'i dyletswyddau sifil i'r plwyf sifil
|
| 1896-1903
|
Streic Chwarel y Penrhyn
|
| 1902
|
Y Ddeddf Addysg yn rhoi rôl awdurdod addysg lleol i'r cynghorau sir gan eu gwneud yn gyfrifol am yr ysgolion Bwrdd ac addysg uwchradd
|
| 1907
|
Sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru
|
| 1910
|
Terfysgoedd Tonypandy yn ystod streic glowyr y Cambrian Combine
|
| 1916
|
David Lloyd George yn dod yn Brif Weinidog
|
| 1919
|
Trosglwyddo cyfrifoldebau Byrddau'r Gwarcheidwaid i'r Weinyddiaeth Lafur
|
| 1920
|
Datgysylltu Eglwys Loegr a chreu'r Eglwys yng Nghymru
|
| 1925
|
Trosglwyddo'r cyfrifoldeb am gasglu trethi o'r cynghorau plwyf i'r CDTau a'r CDGau
|
| 1926
|
Y Streic Gyffredinol
|
| 1929
|
Deddf Llywodraeth Leol yn diddymu Undebau Deddf y Tlodion ac yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am weinyddu Deddf y Tlodion i bwyllgorau cymorth cyhoeddus y cynghorau sir
|
| 1948
|
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn creu byrddau ysbyty rhanbarthol i reoli ysbytai a sefydliadau cymorth cyhoeddus
|
| 1957
|
Deddf Tryweryn yn caniatáu creu cronfa Llyn Celyn i gyflenwi dŵr i Lerpwl
|
| 1964
|
Sefydlu'r Swyddfa Gymreig a chreu swydd Gabinet yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru
|
| 1969
|
Arwisgo Tywysog Cymru
|
| 1971
|
Deddf y Llysoedd yn diddymu'r Llysoedd Chwarter a Llysoedd y Sesiwn Fach ac yn creu Llysoedd y Goron a'r Llysoedd Ynadon
|
| 1974
|
Deddf Llywodraeth Leol yn rhannu Cymru'n wyth sir newydd; ac yn creu Cynghorau Dosbarth yn lle'r CDTau a'r CDGau, a chynghorau bro yn lle'r cynghorau plwyf sifil
|
| 1979
|
Refferendwm Datganoli (79.7% yn pleidleisio "Na")
|
| 1984-1985
|
Streic y Glowyr
|
| 1994
|
Cau Glofa'r Tŵr, pwll dwfn olaf Cymru
|
| 1995
|
Ail-agor Glofa'r Tŵr wedi i'r gweithwyr ei phrynu
|
| 1996
|
Creu dau-ar-hugain o awdurdodau unedol yn lle siroedd a chynghorau dosbarth 1974
|
| 1997
|
Refferendwm Datganoli (50.3% yn pleidleisio "Ie")
|
| 1999
|
Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
|