logo ANW

Rhwydwaith Archifau Cymru

Chwilio'r casgliadau: | Cymorth chwilio |Chwilio manwl | Pori yn ôl sefydliad

Chwilio mynegai cyfunol | Unigolion | Corfforaethau | Lleoedd | Pynciau

[ Change language to English ]

[ Hafan ]

[ Newydd-ddyfodiad? ]

[ Hanes teulu ]

[ Gweinyddu ]

Cymorth chwilio

[Cwmpasiad] [Chwilio sydyn] [Dim gwybodaeth berthnasol?] [Gormod o ganlyniadau?] [Pori'r disgrifiadau] [Mynegeion]

Mae ANW yn cynnwys disgrifiadau byr o archifau yng Nghymru. Mae'n offeryn sy'n eich galluogi i benderfynu pa gasgliadau sydd yn cynnwys deunydd o ddiddordeb i chwi. Gellir pori'r disgrifiadau, chwilio testun neu chwilio mynegeion.

Cwmpasiad

Mae ANW yn disgrifio bron yr holl ddaliadau sydd wedi eu catalogio gan 20 partner y prosiect. Mae'r wybodaeth yn cael ei ryddhau ar ôl ei wirio; mae y rhan fwyaf eisoes ar gael.

Nid yw pob casgliad archifol yn ymwneud a Chymru wedi ei restru ar ANW. Mae'r eithriadau yn cynnwys:

! Mae rhai casgliadau yn cynnwys defnydd nad yw ar hyn o bryd ar gael i'r cyhoedd. Mae amodau weithiau yn cael eu gosod gan adneuwr y casgliad; neu gan y sefydliad archifol oherwydd ystyriaethau yn ymwneud a Gwarchod Data a phreifatrwydd. Nodir gwaharddiadau o'r fath o dan 'Amodau cyfyngu mynediad'.

! Mae'r mwyafrif testun ar ANW yn iaith Saesneg. Bydd chwiliad termau Saesneg yn fwyaf llwyddiannus.

Chwilio sydyn

Teipiwch air neu gymal yn y blwch. Bydd y rhaglen yn chwilio'r prif feysydd gwybodaeth ('Teitl', 'Hanes gweinyddol/bywgraffyddol', a 'Natur a chynnwys').

! Bydd y term cyflawn yn cael ei drin fel un gair gan gynnwys atalnodiad a bylchau.

! Does ond angen chwilio am gychwyn geiriau anghyffredin ('kang' yn hytrach na 'kangaroo'). Does dim angen defnyddio * ar ôl gair anghyflawn gyda Chwilio sydyn, neu " o amgylch y term.

! Does dim angen defnyddio priflythrennau yn y termau chwilio: mae 'Saint', 'SAINT', a 'saint' yn cael eu trin yn yr un modd.

! Nid yw chwiliadau Boolean (AND, OR) yn gweithio ar ANW. Er mwyn cyfyngu cwmpas y chwiliad defnyddiwch Chwilio Manwl neu defnyddiwch dau neu dri gair fel term chwilio. Nid yw'n bosib cyfyngu'r chwiliad ('chwilio yng nghanlyniadau').

! Defnyddiwch Chwilio sydyn er mwyn darganfod faint o wybodaeth berthnasol sydd ar ANW. Wedyn ystyriwch addasu'r term chwilio neu ddefnyddio dull gwell o chwilio.

Mae rhai casgliadau yn fawr iawn ac ni chaiff deunydd sydd yn rhan fach o'r fath gasgliad eu disgrifio yn fanwl (e.e., fydd chwiliad "FA Cup Final tickets 1969" ddim yn ddarganfod dau tocyn Cwpan FA Terfynol mewn casgliad mawr o bapurau eraill ).

! Meddyliwch am benawdau mwy cyffredinol fyddai'n cwmpasu'r math yma o ddeunydd ("football ephemera"; "match programmes and tickets").

Dim gwybodaeth berthnasol?

Enwau wedi eu safoni. Mae enwau personol, corfforaethol a llefydd yn aml wedi cael eu sillafu yn wahanol dros amser. Mae ANW wedi defnyddio un sillafiad safonol, ond ceir ambell i eithriad. Gall tô bach ac arwyddion tebyg hefyd greu problemau i sawl gyfrifiadur. Ceisiwch chwilio am sillafiadau gwahanol.

Rhy benodol. Os yw eich chwiliad yn eich arwain at ddogfen unigol (ewyllys unigolyn, cynllun tŶ), ni fydd wedi ei restru yn y ffurf yma ar ANW. Chwiliwch am gasgliadau yn hytrach nag eitemau. I ba gasgliad fyddai'r eitem yn perthyn?

Cynnwys casgliad. Os ydych yn chwilio am grŵp bychan o ddogfennau, efallai ei fod mewn sefydliad archifol ond heb ei restru ar ANW. Neu efallai ei fod o mewn sefydliad sydd heb ei gynrychioli ar ANW. Neu, wrth gwrs, nid yw mewn unrhyw archifdy.

Cofnodion swyddogol Mae cofnodion llywodraeth ganolog yn TNA ac nid ydynt wedi eu rhestru ar ANW. Mae rhai cofnodion llysoedd a llongau wedi eu trosglwyddo i archifdai lleol; mae'r rhain ar ANW.

Lleoliad anghywir 1. Gall archifau yn gael eu cadw mewn sefydliadau archifol ymhell o'u tarddiad. Chwiliwch ANW i gyd ac nid yr archifdy agosaf yn unig. 2. Mae yna nifer o enwau llefydd tebyg yng Nghymru. Ydych chi yn bendant eich bod yn chwilio am Lanbadarn Fawr yn Sir Aberteifi (Ceredigion yn awr) yn hytrach na'r un yn Sir Faesyfed (Powys yn awr)?

Ehangwch eich chwiliad. Os yw eich teulu yn gysylltiedig â phlwyf penodol chwiliwch am ystadau, diwydiannau, ysgolion neu gymdeithasau yn y plwyf. Gall casgliadau cynghorau plwyf gynnwys gwybodaeth ddiddorol am ddigwyddiadau lleol.

Gormod o ganlyniadau?

Newidiwch eich chwiliad. Chwiliwch am ddau air yn hytrach nag un; neu chwiliwch am air anghyffredin yn hytrach nag un cyffredin.

Cyfyngwch eich chwiliad. Defnyddiwch Chwilio manwl i ganolbwyntio ar ystod dyddiadau, sefydliad archifol arbennig, neu wybodaeth mewn un rhan o'r disgrifiadau.

Defnyddiwch y mynegeion Chwiliwch neu porwch y mynegeion - bydd y rhain yn eich cysylltu gyda'r archifau sydd yn cynnwys y wybodaeth helaethaf am berson neu bwnc.

Pori'r disgrifiadau

Os ydych yn gwybod yn fras enw'r casgliad ac ym mha archifdy y mae dewiswch Pori'r disgrifiadau. Bydd hyn yn eich galluogi i ddewis o restr yn nhrefn y wyddor o'r casgliadau mewn un sefydliad archifol.

! Er mwyn hwyluso'r pori mae teitlau rhai casgliadau wedi eu haildrefnu. Er enghraifft, bydd "John Smith Brewing Papers" yn ymddangos fel "Smith, John, brewing papers". Nid yw enwau cwmnïau wedi eu haildrefnu felly bydd "John Smith Brewing Company Papers" yn ymddangos o dan "J".

! Defnyddiwch yr opsiwn Canfod yn y dudalen (Ctrl+F) ar eich porwr i chwilio am air penodol mewn rhestr.

Mynegeion

Mae'r prif bynciau, unigolion, corfforaethau a llefydd sydd a gynrychioli yn y casgliadau wedi eu mynegeio. Gellir pori'r mynegeion (yn nhrefn y wyddor) neu eu chwilio.

! Mae rhai termau yn y mynegeion yn groesgyfeiriadau i dermau eraill (USE /USE FOR ). Mae enwau llefydd wedi eu cysylltu ag enwau unedau daearyddol mwy (e.e. plwyf gyda sir).

! Defnyddiwch yr opsiwn Canfod yn y dudalen (Ctrl+F) ar eich porwr i chwilio drwy restrau hir.

! Mae'r termau pwnc wedi eu creu drwy ddefnyddio rheolau Llyfrgell y Gyngres. Weithiau, felly, bydd yn rhaid chwilio am sillafiadau a syniadau Americanaidd. Rydym wedi creu ffurfiau lleol ar gyfer rhai termau cyffredin (e.e. "railways" yn lle "railroads", "trades unions" yn lle "labor unions", a "cars" yn lle "automobiles").

! Y ffordd fwyaf grymus o ddefnyddio'r mynegeion yw'r dewis Chwilio mynegai cyfunol. Yn y dudalen yma bydd chwilio o dan Full Index yn gallu dod o hyd i nifer fawr o gofnodion. Gallwch chwilio'r mynegai Enwau Personol am alwedigaelhau, dyddiadau a llefydd yn ogystal ag enwau.

I ben y tudalen