logo ANW

Rhwydwaith Archifau Cymru

Chwilio'r casgliadau: | Cymorth chwilio |Chwilio manwl | Pori yn ôl sefydliad

Chwilio mynegai cyfunol | Unigolion | Corfforaethau | Lleoedd | Pynciau

[ Change language to English ]

[ Hafan ]

[ Newydd-ddyfodiad? ]

[ Hanes teulu ]

[ Gweinyddu ]

Hanes teulu

Mae ymchwilio hanes teulu yn orchwyl sydd yn mynd yn hawsach o hyd gan fod gymaint o wybodaeth nawr ar gael ar y We. Mae'r ffynonellau sydd ar gael yn amrywio o adysgrifau chwiladwy o ddogfennau cyfan i gynorthwyon cyffredinol a gwybodaeth ynghlyn â chasgliadau mewn archifdai. Mae llawer o'r wybodaeth ar y We wedi ei greu gan archifdai ac ar gael yn rhad ac am ddim; mae rhai gwefannau yn codi tâl am wasanaethau penodol; mae rhai gwasanaethau masnachol yn codi tâl am ran, neu'r cyfan, o'r wybodaeth maent wedi ei greu.

Y cyngor gorau y gellid ei roi i'r sawl sydd yn cychwyn ymchwilio hanes eu teulu yw: darllenwch lyfr ar y pwnc! Mae yna ystod eang o ddefnyddiau ar y We yn ogystal. Lle da i gychwyn yw ar dudalennau hanes teulu The National Archives (Saesneg), Casglu'r Tlysau (Cymraeg a Saesneg) neu BBC (Saesneg).

Yn y gorffennol mae haneswyr teulu wedi canolbwyntio ar gofrestri genedigaethau, priodasau a marwolaethau, ewyllysiau, a'r cyfrifiad gan mai dyma oedd y ffyrdd gorau i ddod o hyd i unigolion. Erbyn hyn mae mynegeion i lawer o'r cofnodion yma ar gael ar y We.

Mae adnodd fel Rhwydwaith Archifau Cymru (ANW, y wefan hon) yn darparu math gwahanol o wasanaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth am bob math o ddefnyddiau archifol (cofnodion corfforaethol, papurau ystâd, gohebiaeth bersonol, cofnodion elusennau a llywodraeth leol, hanes llafar, mapiau a ffotograffau). Gan mai crynodeb o'r catalogau yn unig sydd yn cael eu cyflwyno ar y wefan, byddai chwiliad am enw person penodol yn y math yma o adnodd yn annhebygol o ddod o hyd i unrhyw wybodaeth. Er enghraifft byddai enw mwynwr yn ymddangos ar restri cyflog a chofnodion eraill cwmni mwyngloddio ond ni fyddai yn ymddangos yn y disgrifiad lefel casgliad a geir ar y wefan hon. Fodd bynnag, byddai chwilio am fwyngloddio fel pwnc, neu am enw'r plwyf neu gwmni perthnasol yn galluogi i'r defnyddiwr leoli'r sefydliad archifol sydd yn dal y cofnodion. Cymorth Chwilio.

Dim ond rhan fechan iawn o archifau ym Mhrydain sydd wedi ei digido ar y We, ond erbyn hyn mae'n llawer hawsach chwilio a darllen gwybodaeth am gasgliadau archifol. Dylai hyn olygu fod eich ymweliadau ag archifdai fod yn brofio llawer mwy effeithlon a phleserus. Mae yna adnoddau tebyg i ANW ar gyfer rhannau eraill o'r DU.

Man cychwyn

Rhestrir mwy cysylltiadau ar dudalen Newydd-ddyfodiad.

I ben y tudalen