Archives Wales Your gateway to history



You are here: Search the Catalogue

National Library of Wales

Papurau Gwenallt

Reference code(s): GB 0210 GWELLT

Held at: National Library of Wales

Title: Papurau Gwenallt

Short title: Gwenallt, papurau (papers)

Dates of creation: 1913-1970

Level of description: Fonds

Extent and medium: 0.143 metrau ciwbig (5 bocs)

Name of creator(s): David James Jones ('Gwenallt', 1899-1968)

CONTEXT

Administrative and biographical history: Yr oedd David James Jones ('Gwenallt',1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).

CONTENT

Scope and content: Llawysgrifau a chopïau teipysgrif o gerddi Gwenallt, 1922-[1968], yn cynnwys 'Mynach','Ynys Enlli', a cherddi eraill a gyhoeddwyd; sgriptiau, dramâu ac anerchiad, yn bennaf ar gyfer y radio,1947-1952; llyfrau a nodiadau rhydd a phenawdau'n cynnwys nodiadau a gopïwyd o lyfrau ac erthyglau wedi eu paratoi ar gyfer darlithoedd, sgyrsiau, anerchiadau, gweithiau cyhoeddedig ac ysgolion, 1913-1958; llythyrau, at Gwenallt yn bennaf, a rhai at ei weddw, 1926-1970; deunydd yn ymwneud â'i gofiant i Idwal Jones (1958) yn cynnwys llyfrau nodiadau a chopïau drafft o ran o'r llyfr yn ogystal â chaneuon, cerddi a pharodïau gan Jones, 1922-[1958]; a llyfr cofnodion,1929-1933, 'Cymdeithas yr Hwrddod' a ffurfiwyd gan Gwenallt ac Idwal Jones yn Aberystwyth = Manuscripts and typescripts of poetry by Gwenallt, 1922-[1968], including 'Y Mynach', 'Ynys Enlli' and other published poems; scripts, dramas and an address, mostly written for radio, 1947-1952; notebooks, loose notes and headings containing notes copied from books and articles in preparation for lectures, talks, addresses, published works and for school, 1913-1958; letters, mostly to Gwenallt, with some to his widow, 1926-1970; material relating to his biography of Idwal Jones (1958) including notebooks and drafts of parts of the book as well as songs, poems and parodies written by Jones, 1922-[1958]; and a minute book, 1929-1933, of 'Cymdeithas yr Hwrddod', formed by Gwenallt and Idwal Jones at Aberystwyth.

ACCESS AND USE

Language/script: Cymraeg, Saesneg

System of arrangement: Trefnwyd fel a ganlyn: barddoniaeth Gwenallt; cofiant Idwal Jones; sgriptiau radio scripts and dramâu; nodiadau; gohebiaeth; amrywiol.

Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction: Mae'r hawlfraint ar bapurau Gwenallt yn eiddo i'w ferch Mrs Mair Powell.

Finding aids: Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael arlein.
Detailed catalogue

ARCHIVAL INFORMATION

Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals: Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Immediate source of acquisition: Rhodd gan ei weddw, Mrs Nel Gwenallt, Aberystwyth, 1973, 1999, 2001.

ALLIED MATERIALS

Related units of description: Ceir papurau pellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 22054-22060, drafftiau llawysgrif a theipysgrif o nofel hunangofiannol Gwenallt Ffwrneisi - Cronicl Blynyddoedd Mebyd (Llandysul, 1982).

DESCRIPTION NOTES

Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae rhai eitemau megis llythyrau o gydymdeimlad yn dyddio ar ôl ei farw.

Archivist's note: Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Gwenallt; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales(Rhydychen, 1986).

Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad wn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Date(s) of description: Chwefror 2003


INDEX ENTRIES

Subjects

Gwenallt, | 1899-1968 | Archives

Jones, Idwal, | 1895-1937 | Biography

Poets | Wales | Archives

Poets, Welsh language

Personal names

Gwenallt, 1899-1968

Gwenallt, Nel, b. ca. 1908

Jones, Idwal, 1895-1937

Corporate names

Cymdeithas yr Hwrddod

Places